Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Mercher, 20 Chwefror 2019
Amser:
09.32 -
11.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5309
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Darren Millar AC (yn lle Angela Burns AS) Neil Hamilton AC Helen Mary Jones AC Lynne Neagle AC David Rees AC |
Tystion: |
Vaughan Gething AC, Gweinidog yr Economi Simon Dean, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Claire Morris (Clerc) Bethan Kelham (Dirprwy Glerc) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Angela Burns AC, a dirprwyodd Darren Millar AC ar ei rhan.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC.
2 Gofal Iechyd Gwledig: Sesiwn Dystiolaeth gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
2.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu'r hyn a ganlyn:
· Ffigurau ar nifer y lleoedd sydd ar gael eleni o ran cydweithrediad Caerdydd Bangor.
· Manylion effaith y rhaglen Iechyd Gwledig ac Anghysbell mewn Addysg Feddygol. (RRHIME).
· Asesiad o sgiliau iaith Gymraeg presennol gweithlu'r GIG a'i ddisgwyliad o ran niferoedd yn y dyfodol.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o'r cyfarfod ar 7 Mawrth 2019
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod a’r cyfarfod ar 7 Mawrth 2019, pan fydd y Pwyllgor yn lansio ei adroddiad ar Weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc.
4 Gofal Iechyd Gwledig: Trafod y dystiolaeth
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.